Polisi Preifatrwydd

Rhagarweiniad

Mae preifatrwydd eich gwybodaeth bersonol yn bwysig i WINSENT. Darperir yr hysbysiad hwn i esbonio ein harferion gwybodaeth ar-lein a’r dewisiadau sydd yna i chi am y ffordd y cesglir ac y defnyddir eich gwybodaeth bersonol ganfyddadwy (“Gwybodaeth Bersonol”) ar y safle hwn.

Mae’r arferion preifatrwydd a osodir allan yn y Polisi Preifatrwydd hwn ar gyfer gwefan winsent.eu (y “Wefane”) yn unig. Os ydych yn weithiwr i WINSENT neu gysylltiedig, sylwch fod polisïau cwmni mewnol eraill yn gymwys i chi’n ymwneud â defnydd gweithwyr o systemau cyfrifiadurol a rhwydweithiau’r cwmni.

Sylwch eich bod yn arwyddocau eich cytundeb â’r polisi preifatrwydd a fynegir yma drwy ddefnyddio’r Wefan. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn weithredol o 2009.

Casglu Gwybodaeth Oddefol: Cwcis

Cwci yw darn testun-yn-unig o wybodaeth y bydd gwefan yn ei drosglwyddo i ddisg galed eich cyfrifiadur fel y gall y wefan gofio pwy ydych chi. Fel rheol bydd cwci’n cynnwys enw parth y rhyngrwyd o ble daeth y cwci, “bywyd” y cwci, a gwerth, rhif unigryw a gynhyrchir ar hap. Byddwn yn defnyddio cwcis i werthuso defnydd cyffredinol y Wefan. Byddwn yn defnyddio cwcis hefyd i wybod pwy ydych chi wedi i chi logio i mewn neu gofrestru fel y gallwn deilwra eich hoffterau personol ar gyfer profiad sydd wedi ei bersonoli’n fwy. Bydd cwcis hefyd yn sicrhau bod ymddangosiad ein gwefan yn cydymffurfio â phorwr eich rhyngrwyd. Fel rheol gallwch ffurfweddu eich porwr Rhyngrwyd i wrthod cwcis. Ond, os gwnewch hynny, efallai na allwch gyrchu tudalennau arbennig neu ddefnyddio swyddogaethau pwysig eraill ar y Wefan. Rydym yn arddel yr hawl i gyflwyno technolegau tracio goddefol newydd sy’n ymwneud â defnydd y Wefan. Yn gyffredinol, fyddwn ni ddim yn cysylltu eich hunaniaeth â gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu’n oddefol. Ond, mewn unrhyw sefyllfa lle byddwch yn logio i mewn gyda’ch rhif defnyddiwr a’ch allweddair, gellir cysylltu peth o’r wybodaeth neu’r wybodaeth i gyd sy’n cael ei chasglu’n oddefol am eich gweithgareddau ar y Wefan, â’ch hunaniaeth, ac felly fe all ddod yn Wybodaeth Bersonol amdanoch chi.

I ddysgu mwy am gwcis a thechnolegau tracio goddefol eraill a’r ffordd y gellid eu defnyddio ar eich cyfrifiadur, darllenwch y wybodaeth help a ddarparwyd gyda meddalwedd porwr eich rhyngrwyd.

Casglu Gwybodaeth Actif

Yn gyffredinol, pan fyddwch yn ymweld â’ch Gwefan gallwch aros yn ddienw, ond ar rai tudalennau, mae angen i chi ddarparu Gwybodaeth Bersonol i gofrestru â chysylltu â ni a deliadau eraill drwy’r Wefan. Gall y Wybodaeth Bersonol a gesglir ar y Wefan gynnwys unrhyw un o’r canlynol neu’r cwbl, yn ddibynnol ar eich gweithgareddau ar y Wefan: Enw, cwmni, swydd, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif ffacs, a gwybodaeth cerdyn credyd/debyd, cerdyn caffael, enw defnyddiwr, allweddair, hyfforddiant ar-lein (a geisiwyd ac a dderbyniwyd) a Gwybodaeth Bersonol arall a ddarparwyd yn actif gennych i ni drwy’r Wefan.

Fe’ch galluogwn hefyd i gyflwyno gwybodaeth bersonol-ganfyddadwy am bobl eraill. Er enghraifft, byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth i ni am ffrindiau a allai fod â diddordeb mewn clywed am WINSENT. Gellir casglu gwybodaeth bersonol-ganfyddadwy o’r mathau canlynol am bobl yn y tudalennau hyn yn cynnwys: enw a gwybodaeth gyswllt (yn cynnwys cyfeiriad e-bost).

Defnyddio Gwybodaeth Bersonol

Byddwn yn defnyddio ac yn datgelu Gwybodaeth Bersonol i brosesu a darparu gwybodaeth am ein sefydliad a materion eraill o ddiddordeb.

WNAWN NI DDIM GWERTHU UNRHYW WYBODAETH BERSONOL A DDARPARWCH CHI DRWY’R WEFAN HEB EICH CYDSYNIAD YMLAEN LLAW. Fe allwn ddefnyddio Gwybodaeth Bersonol a ddarparwch i’ch diweddaru ar ein gweithgareddau neu roi gwybod i chi am brosiectau newydd y credwn fyddai o ddiddordeb i chi. Os na fyddwch am dderbyn y wybodaeth hon yn y dyfodol, cysylltwch â ni ar info@winsent.eu

O bryd i’w gilydd, fe allwn rannu Gwybodaeth Bersonol arbennig gyda dielw eraill (yn cynnwys cysylltiedigion eraill WINSENT) i’w galluogi i rannu gwybodaeth a allai fod o ddiddordeb i chi. Os nad ydych am i ni rannu Gwybodaeth Bersonol gyda’r endidau hyn, cysylltwch â ni ar info@winsent.eu ac fe gymerwn fesurau rhesymol i osgoi rhannu gwybodaeth felly yn y dyfodol. Sylwch fod y partïon eraill hyn weithiau’n annibynnol ar WINSENT, ac os dymunwch stopio pob cysylltiad gan bartïon felly, bydd angen i chi ddelio â materion felly efo nhw’n uniongyrchol. Fe allwn rannu Gwybodaeth Bersonol gyda’n hymgynghorwyr neu ddarparwyr gwasanaeth sy’n ein helpu i weithredu’n fwy effeithlon ac i wasanaethu ein buddgyfranogwyr yn well. Byddwn hefyd yn contractio cwmnïau eraill ac unigolion (“Cyflenwyr” yn gyfunol) i berfformio swyddogaethau ar ein rhan, yn cynnwys heb gyfyngiad, prosesu taliadau cardiau credyd, anfon cyfathrebiaeth atoch chi, a darparu gwasanaethau cwsmeriaid. [Mae’n ofynnol i’r Cyflenwyr gadw eich Gwybodaeth Bersonol yn gyfrinachol gymaint ag sydd ei angen i berfformio eu swyddogaethau ac nid ar gyfer unrhyw ddiben arall.]

Fe allwn ddatgelu Gwybodaeth Bersonol mewn ymateb i broses gyfreithiol neu lle credwn yn ddidwyll bod hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith, er enghraifft, mewn ymateb i orchymyn llys, gwyslythyr neu gais gan asiantaeth gorfodi’r gyfraith. Rydym hefyd yn arddel yr hawl i ddatgelu Gwybodaeth Bersonol i amddiffyn diogelwch y Wefan, i’n hamddiffyn ein hunain a’n cysylltiedigion dielw rhag atebolrwydd, a/neu mewn cysylltiad ag unrhyw werthiant, aseiniad, neu drosglwyddiad arall rhai neu bob un o’n gweithrediadau.

Prosesir y taliadau a wneir i WINSENT ar y Wefan drwy borth taliad trydydd parti. Cedwir manylion cerdyn Credyd / Debyd gan y parti sy’n darparu’r gwasanaethau talu a’i fanc cysylltiedig yn unig a hynny ddim ond hyd nes y prosesir y taliad, oni bai eich bod yn awdurdodi i’r wybodaeth gael ei storio ar gyfer ymweliadau yn y dyfodol. Os penderfynwch yn ddiweddarach nad ydych am i ni storio gwybodaeth felly, gallwch gysylltu â ni ar info@winsent.eu a gofyn i ni ddileu’r wybodaeth. Mewn achos o amheuaeth o ddeliad twyllodrus, gellir datgelu manylion cerdyn dim ond er mwyn perfformio gwiriadau pellach.

Nid yw’r Wefan wedi ei chyfeirio at bersonau sydd dan 13 oed a fyddwn ni ddim yn casglu Gwybodaeth Bersonol gan unrhyw un sydd dan 13 oed. Os ydych o dan 13 oed, peidiwch â datgelu Gwybodaeth Bersonol ar y Wefan.

Sut y Gallwch Gyrchu neu Gywiro Gwybodaeth

Os ydych yn ddefnyddiwr cofrestredig y Safle, gallwch gyrchu a chywiro Gwybodaeth Bersonol arbennig y byddwn yn ei chasglu ar-lein a’i chynnal drwy glicio ar “Your Account” a rhoi eich enw defnyddiwr a’r allweddair. Os na ellir cywiro unrhyw wallau yn eich Gwybodaeth Bersonol drwy gyrchu “Your Account” neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â newid gwybodaeth eich cyfrif, cysylltwch â ni ar info@winsent.eu . Gallwch gysylltu â ni hefyd gan ddefnyddio’r wybodaeth isod i ofyn i ni ddileu eich Gwybodaeth Bersonol oddi ar ein cofnodion, electronig neu fel arall. Ond, bydd angen i ni gadw Gwybodaeth Bersonol arbennig am eich taliadau yn ein cofnodion i ddibenion fel hysbysiadau treth a datgeliadau.

Defnyddio Gwybodaeth Ddienw

Bydd gweinyddwyr gwe’r Wefan yn casglu logiau dienw yn ystod ymweliadau defnyddwyr â’r wefan. Defnyddir y wybodaeth hon i greu ystadegau cyfanred, er enghraifft, pa bryd y cyrchir ein gwefan, y tudalennau sy’n cyfeirio ymwelwyr i’n gwefan, y math o borwyr gwefan y bydd ymwelwyr yn eu defnyddio ac ar ba dudalennau y bydd pobl yn edrych. Mae’r ystadegau hyn yn ein helpu i ddeall sut y defnyddir y Wefan ac mae’n ein darparu â gwybodaeth werthfawr i wella’r Wefan yn y dyfodol. Mae pa fath a swm y wybodaeth y gallwn ei derbyn a’i storio’n dibynnu ar sut y defnyddiwch y Wefan. Gallwch gyrchu’r rhan fwyaf o’n tudalennau heb ddweud wrthym pwy ydych chi a heb ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol.

Diogelwch

Bydd WINSENT yn ymdrechu i ddiogelu’r wybodaeth y bydd ymwelwyr yn ei chyflwyno, ond nid oes unrhyw drosglwyddiad data’n gwbl ddiogel. Ni fydd WINSENT yn atebol mewn unrhyw amgylchiadau am iawndal oherwydd defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gennych chi nac unrhyw ymwelydd arall â’r Wefan. Pan fyddwch yn cyrchu eich cyfrif, byddwn yn cynnig (drwy ddarparwr Gwasanaeth prosesu taliad) defnydd gweinyddwr diogel. Bydd meddalwedd y gweinyddwr diogel yn derbyn gwybodaeth wedi’i amgryptio drwy ‘Secure Sockets Layer’(SSL) eich porwr Rhyngrwyd sy’n amgryptio’r Wybodaeth Bersonol a rowch chi i mewn cyn y caiff ei anfon atom ni a bydd yn ceisio atal unrhyw un rhag ei darllen wrth i’r wybodaeth deithio o’ch cyfrifiadur chi i’n cyfrifiadur ni.

Enwau Defnyddwyr ac Allweddeiriau

Eich cyfrifoldeb chi yw diogelu unrhyw enwau defnyddwyr neu allweddair a dderbyniwyd gennych yn gysylltiedig â’r wefan, ac i’n hysbysu ni os byddwch yn amau o gwbl bod diogelwch a chyfrinachedd yr enw defnyddiwr neu’r allweddair wedi ei gyfaddawdu mewn unrhyw ffordd. Rydych yn unigol gyfrifol am unrhyw ddefnydd o’r Wefan drwy eich enw defnyddiwr a’ch allweddair.

Cysylltiadau

Sylwch y gall trydydd parti hefyd gasglu gwybodaeth amdanoch chi, drwy gwcis neu dechnolegau eraill, pan fyddwch yn cysylltu â’u gwefannau drwy ein gwefan ni. Fyddwn ni ddim yn monitro nac yn rheoli casgliad y wybodaeth nac arferion preifatrwydd y rhain neu unrhyw drydydd parti arall, ac nid ydym yn gyfrifol am eu harferion na chynnwys eu gwefannau. Os byddwch yn bryderus am y ffordd y bydd trydydd parti’n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth, adolygwch eu harferion preifatrwydd drwy eu gwefan.

Newidiadau i Bolisi Preifatrwydd WINSENT

Mae ein harferion preifatrwydd, fel y cyfrwng ar-lein ei hun, yn amodol ar newid. Gall WINSENT, gyda’i ddisgresiwn unigol, newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg i adlewyrchu newidiadau yn y ffordd y casglwn ac y defnyddiwn Wybodaeth Bersonol yn y dyfodol. Gwiriwch y polisi hwn yn aml ac yn enwedig cyn cyflwyno Gwybodaeth Bersonol ychwanegol drwy’r Wefan. Fe roddir yr holl ddiwygiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn ar y wefan drwy ddolen o dudalen hafan y wefan. Bydd defnydd parhaus o’ch gwefan yn dilyn y newidiadau yn y polisi preifatrwydd hwn yn golygu eich bod yn derbyn y newidiadau hynny.

Cyfraith Llywodraethu

Bydd cyfraith Iwerddon, heb unrhyw gyfeiriad at unrhyw ddewis o ddarpariaeth cyfraith, yn llywodraethu unrhyw hawliadau sy’n ymwneud â’r Wefan.

Sut i Gysylltu â Ni

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ein polisïau preifatrwydd, cyfeiriwch nhw at:

WINSENT
Bolbrook Enterprise Centre
Avonmore Road
Tallaght
Dublin 24
Ffôn: +00353 1 4145777
E-bost: info@winsent.eu

Back to top