Patsy – y fam ddewr sy’n helpu eraill i drechu’r botel
Darluniau o’i thri phlentyn sy’n addurno pob twll a chornel o fwthyn Patsy Taylor ar Ynys Môn.
Pan fydd hi’n siarad am Elizabeth, 25, Megan, 22 a James, sy’n 15 oed, does dim amheuaeth nad ydy hi’n fam falch a chariadus dros ben.
Ond flwyddyn yn ôl, aeth ei phlant â hi i’r ysbyty mewn ymgais i roi diwedd ar frwydr 10 mlynedd Patsy yn erbyn cyfnodau maith o oryfed.
Dydy Patsy, 53, o Lanfairpwll, ddim wedi cyffwrdd diferyn o’r ddiod gadarn ers dros flwyddyn ar ôl i’w hymweliad â’r ysbyty wneud iddi sobri a sylweddoli’r niwed roedd ei dibyniaeth ar alcohol yn ei achosi.
Meddai: “Ro’n i yn yr ysbyty gyda dynes arall oedd yn iau na fi a dw i’n cofio teimlo cymaint o biti drosti. Roedd hi mor felyn, gallech ei weld o yng ngwyn ei llygaid, ac roedd hi mor wael ac mor drist, a dw i’n siŵr nad oedd ganddi lawer o amser ar ôl.
“Mi ddywedodd wrtha’i ei bod wedi bod i mewn ac allan o’r ysbyty ers blynyddoedd a’r cwbl y gallai feddwl amdano oedd sut i gael diod arall.
“Y cwbl y gallwn i feddwl amdano oedd gwella a bod gyda’m plant a dw i’n meddwl fod hynny’n drobwynt i mi.”
Mae Patsy wedi ymrwymo cymaint i’w hadferiad fel ei bod bellach yn gwirfoddoli i’r grŵp cymorth a helpodd i sbarduno’i brwydr i drechu’r botel.
Mae’n treulio pob awr sbâr sydd ganddi’n gweithio i Sefydliad Adfer Môn a Gwynedd (AGRO) lle mae eisoes yn aelod o’r bwrdd, yn helpu i redeg grŵp cymorth y sefydliad ym Mangor ac wedi ennill cymhwyster mewn mentora cydweithwyr. Ei nod yw cymhwyso’n llawn fel gweithiwr cymorth er mwyn helpu pobl sy’n brwydro yn erbyn problemau camddefnyddio alcohol a chyffuriau.
Dywedodd Patsy, a arferai yfed potel gyfan o fodca ar unwaith pan fyddai ar ei gwaethaf: “Fedra’i ddim dechrau egluro sut deimlad ydy peidio bod yn yfed erbyn hyn. Mae’r dicter, y chwerwder a’r euogrwydd ro’n i’n eu teimlo wedi codi a diflannu a dw i’n teimlo fel pe bawn i’n dechrau bywyd newydd.
“Dw i wrth fy modd yn gweithio i AGRO. Mae wedi rhoi cymaint o bwrpas i mi a chymaint o bethau i anelu tuag atyn nhw ac alla’i ddim disgwyl i fwrw iddi o hyd. Mae bod â rhywbeth mor gadarnhaol yn fy mywyd yn fy ngwneud i mor hapus ac os galla’i helpu eraill yn y broses, yna gorau oll.”
Sefydlwyd AGRO ychydig dros flwyddyn yn ôl ac mae’n cynnig cymorth dros y ffôn 24 awr y dydd i’r bobl y mae’n eu helpu. Mae’n trefnu amrywiaeth o weithgareddau fel garddio, cerdded a dosbarthiadau celf mewn ymgais i ddargyfeirio pobl oddi wrth eu problemau a mynd â’u bryd wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn eu dibyniaeth.
Mae’r egin sefydliad, sy’n derbyn y nesaf peth i ddim o gyllid, yn derbyn cyngor a chefnogaeth gan WINSENT (Rhwydwaith Mentergarwch Cymdeithasol Cymru Iwerddon). Nod y prosiect gwerth £1.3 miliwn yw cefnogi mentrau cymdeithasol sy’n helpu i leihau tlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol a rhoi bywyd newydd i gymunedau ledled Ynys Môn.
Caiff WINSENT ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Cymru Iwerddon (INTERREG 4A).
Dywedodd cyd-sylfaenydd AGRO, Huw Harries, gweithiwr cymorth cyffuriau ac alcohol sydd wedi wynebu ei broblemau yfed ei hun yn y gorffennol, fod cyfraniad WINSENT yn amhrisiadwy.
Meddai: “Mae gen i ddwy swydd ar hyn o bryd er mwyn helpu i ariannu AGRO ac mae WINSENT yn ein llywio drwy’r broses o ddod yn fenter gymdeithasol, a ddylai ein helpu i fanteisio ar gronfeydd ariannol hollbwysig.
“Does yr un ohonon ni yn AGRO wedi bod drwy’r broses yma o’r blaen ac rydan ni am ei wneud o’n iawn er mwyn cael y gorau o’r hyn rydan ni’n ceisio’i wneud. Dyna pam ei bod hi mor bwysig gallu siarad gyda’r bobl yn WINSENT a’u bod nhw’n defnyddio’u profiad a’u gwybodaeth i’n llywio drwy’r broses.”
Mae Sue Haygarth, o’r Consultancy Coop sydd wedi’i leoli yng Nghymru, yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i gyflwyno WINSENT i fentrau cymdeithasol yn y sir. Mae cydweithiwr iddi, Dr Martin Price, wedi bod yn helpu AGRO ac meddai: “Mae AGRO eisoes yn gwneud gwaith mor wych ym Môn a gallwch ddweud wrth wrando ar hanesion y bobl y mae’n eu helpu ei fod yn gallu bod yn achubiaeth i bobl sydd ddim yr unig rai sy’n dioddef, mewn sawl achos, oherwydd mae eu teuluoedd a’u ffrindiau yn mynd drwy’r peth gyda nhw hefyd.
“Er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth ardderchog yma’n goroesi i’r dyfodol, rydan ni’n helpu AGRO i ffurfio menter gymdeithasol a ddylai agor sawl drws ariannol arall iddyn nhw.”
Dydy Patsy ddim yn dal yn ôl wrth iddi gofio’r person y byddai’n troi iddo dan ddylanwad y ddiod gadarn.
Meddai: “Doedd dim ots gen i am ddim byd ac ro’n i mor hunanol. Mi fyddwn i’n crio drwy’r amser achos rydach chi’n teimlo mor isel ac mae’n ofnadwy, yn wirioneddol ofnadwy.
“Mi fyddwn i’n cloi fy hun yn y tŷ ac yn gwrthod mynd allan. Fyddwn i ddim yn ateb y ffôn a’r peth gwaethaf oedd, mi fyddai’n achosi gymaint o bryder i’m plant ac yna mi fyddwn i’n teimlo’n euog am hynny ac yn ei ddefnyddio fel esgus i ddechrau yfed eto. Mae’n sefyllfa greulon iawn i fod ynddi.
“Ro’n i allan o reolaeth.”
Un tro, galwodd James, ei phlentyn ieuengaf a phêl-droediwr addawol, yr heddlu am ei fod yn poeni gymaint am ei fam a ddim yn gwybod beth arall i’w wneud i’w helpu.
Meddai Patsy: “Roedd rhaid i James fynd i aros efo ffrind am rai misoedd nes i mi gael fy hun yn ôl ar fy nhraed.”
“Ro’n i’n gwybod fod rhaid i mi wella a dyna pryd y dechreuodd fy adferiad. Mae’n llwybr anodd ei droedio a dim ond os ydych chi wirioneddol ei eisiau y byddwch chi’n llwyddo. Rhaid iddo ddod gennych chi, nid am fod rhywun arall yn dweud wrthych fod rhaid i chi wella.”
Hyd yn oed wrth wynebu digwyddiadau cymdeithasol fel priodas ei merch yn yr haf neu benblwydd ei ffrind yn 40, llwyddodd Patsy i reoli ei hawydd i yfed. Mae’n credu fod hynny’n arwydd fod ei hadferiad yn mynd i bara yn y tymor hir.
Meddai: “Dw i dal wrth fy modd yn gwisgo i fyny a mynd allan ac mae’n siŵr fy mod i’n berson allblyg a chymdeithasol ond gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon nad ydy peidio gallu yfed wedi difetha pethau o gwbl. Pan oedden ni i gyd allan y noson o’r blaen yn dathlu penblwydd fy ffrind, roedd pawb yn gwylio’r hyn roedden nhw’n ei wario ar y pryd bwyd am eu bod nhw eisiau cadw eu harian i yfed yn nes ymlaen, ond cefais i’r stecen ffiled fwyaf blasus y gallech ei dychmygu ac roedd hi’n hyfryd!”
Mae Patsy wedi rhoi cynnig ar grwpiau cymorth eraill yn y gorffennol ond mae’n cyfaddef yn agored iddi fynd i’r cyfarfodydd wedi meddwi weithiau.
Mae’n credu mai’r gwahaniaeth gydag AGRO ydy’r gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu trefnu i bobl sydd â phroblem eu mwynhau. Mae’n gyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan feddwl am rywbeth arall yn hytrach na’u dibyniaeth a’u brwydr i ddianc o’i afael.
Dywedodd Patsy: “Mi fues i’n helpu yn y rhandir, dw i wedi bod mewn dosbarthiadau celf, ac mae hyd yn oed mynd am dro efo rhywun yn eich helpu i fynd allan, cael dipyn o awyr iach ac anghofio am y problemau sy’n eich wynebu.”
Dywedodd ei ffrind a’i chydweithiwr Huw: “Mae hi fel geneth fach yn agor anrheg Nadolig ac mae’n ardderchog ei gweld hi mor hapus.
“Pan ddaeth hi atom ni, roedd ei bywyd yn llanast ond mae hi wedi bod yn ddewr iawn a gyda chymorth AGRO mae wedi cyrraedd lle mae hi rŵan.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n edrych ymlaen at helpu eraill a rhoi rhywbeth yn ôl ac mae hi’n ased gwerthfawr i ni. Mae llawer o bobl gyda’r mathau o broblemau rydan ni’n delio â nhw’n ei chael hi’n haws o lawer siarad â rhywun sydd wedi bod drwy’r peth eu hunain. Rhywun sy’n gwybod beth maen nhw’n mynd drwyddo ac yn gwybod fod yna ffordd arall.”
I ddysgu mwy am WINSENT ewch i www.winsent.eu neu e-bostiwch Sue Haygarth yn winsent@denbighshire.gov.uk.
Am fwy o fanylion am AGRO ewch i www.agro-cymru.org neu ffoniwch 07549 956002.







