Croeso i WINSENT
(‘Wales Ireland Network for Social Entrepreneurship’)

Caiff Prosiect WINSENT ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG 4A)

“What business entrepreneurs are to the economy; social entrepreneurs are to social change. They are the driven, creative individuals who question the status quo, exploit new opportunities, refuse to give up, and remake the world for the better.” – David Bornstein

Bydd entrepreneuriaid cymdeithasol yn ymdrechu i newid cymdeithas gan ddefnyddio sgiliau busnes a gwybodaeth. Maent yn profi y gall taclo materion cymdeithasol ac amgylcheddol, gan ddefnyddio fframwaith busnes, weithio a’i bod yn iawn anelu am lwyddiant ariannol. Gall syniadau a delfrydau cynaliadwy wneud y gwahaniaeth rhwng menter gymdeithasol sy’n darparu gwasanaeth cymunedol sydd wirioneddol ei angen ac un a all barhau i wneud hynny ymhell ar ôl i’r grantiau ddod i ben.

Bydd entrepreneur cymdeithasol yn gallu ysgogi brwdfrydedd ac ysgogi’r gymuned leol, ei hysbrydoli a’i chynnwys, herio’r arweinwyr a’r swyddogion y mae angen iddyn nhw ymgysylltu i fod â mwy o gyfrifoldeb cymdeithasol ac i gofleidio ffyrdd newydd o gyflawni gwasanaethau.

Ein nod yw dod o hyd i entrepreneuriaid cymdeithasol, i harneisio eu sgiliau a’u gwybodaeth a gadael i eraill elwa arnyn nhw. Rydym yn amcanu i helpu’r rheiny sy’n weithgar mewn mentrau cymdeithasol i geisio sylweddoli a ydyn nhw’n entrepreneuriaid cymdeithasol eu hunain mewn gwirionedd. Rydym yn amcanu hefyd i’w helpu i dyfu ymhellach a dod yn llysgenhadon i entrepreneuriaeth gymdeithasol.

Mae WINSENT yn brosiect uchelgeisiol i hyrwyddo entrepreneuriaeth gymdeithasol yn Iwerddon a Gogledd Cymru.

Mae WINSENT yn rhoi cyfle i rwydweithio ac yn rhoi cymorth, arweiniad ac ystod o gefnogaeth am ddim i unrhyw entrepreneur cymdeithasol neu fenter gymdeithasol sydd wedi ei lleoli yn Nulyn a’r cylch yn Iwerddon neu wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru yn siroedd Dinbych ac Ynys Môn. Fe fydd yna gyfleoedd i rwydweithio gydag “asiantau newid” o’r un tueddfryd drwy WINSENT NETWORK

Rhowch gynnig ar y prawf sydyn isod i weld a ydych yn entrepreneur cymdeithasol.

  • Oes gennych chi syniad busnes gydag ethos cymdeithasol?
  • Ydych chi wedi adnabod problem gymdeithasol ac yn awyddus i’w datrys?
  • Ydych chi’n cael eich meddiannu gan eich syniadau, gan ymrwymo eich bywyd i newid cyfeiriad yn eich maes?
  • Ydych chi’n berson sydd â gweledigaeth a phenderfyniad i ddyfalbarhau er anawsterau dychrynllyd?
  • Ydych chi’n ceisio cynhyrchu “gwerthoedd cymdeithasol” yn hytrach nag elw?
  • Ydych chi’n cael eich gyrru i gynhyrchu effaith anfesuradwy drwy agor llwybrau newydd ar gyfer y rhai sydd ar y cyrion a’r rhai difreintiedig a datgloi potensial llawn y gymdeithas i beri newid cymdeithasol?

Os mai oes neu ydw yw eich ateb i unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn eich helpu.

Cymerir ymagwedd entrepreneuriaeth gymdeithasolgan arweinwyr ac arloeswyr sy’n gweld cyfleoedd newydd i beri newid cymdeithasol a gweithio gydag eraill, mewn ffordd entrepreneuraidd, i wneud i hynny ddigwydd. Bydd cymhwyso’r ymagwedd hon i brosiectau presennol a rhai newydd sy’n seiliedig ar y gymuned yn eu hehangu mewn ffordd newydd, ddeinamig ac felly’n creu mwy o effaith gymdeithasol.

Enghreifftiau o entrepreneuriaid cymdeithasol

Mary Nally
Mae’r ‘Third Age Foundation’ sydd wedi ei leoli yn Summerhill, Co.Meath, Iwerddon yn sefydliad pobl hŷn, yn cael ei redeg gan bobl hŷn ar gyfer pobl hŷn.

Dara Hogan
Fledglings Childcare “Ein hegwyddor arweiniol yw bod addysg yn ateb i dlodi ac anfantais. Rwy’n dilyn yr egwyddor honno drwy fynd â’r hyfforddiant a ddarparwn i’n haddysgwyr blynyddoedd cynnar allan i’r cymunedau lleol.”

Kate Gaynor Mae
Special Stories Publishing iyn gwmni Gwyddelig llwyddiannus sy’n arbenigo mewn llyfrau ar gyfer plant, rhieni, teuluoedd ac ysgolion ledled y byd.

Karen Leigh Mae Sensational Kids yn elusen gofrestredig sy’n darparu therapi sy’n canolbwyntio ar y teulu a gwasanaethau addysgol i blant o bob gallu yn ein canolfan therapi galwedigaethol fodern yn Kildare.

Technoleg lloeren yn chwyddo busnes ar y sgrin fawr


Mae sinema fawr yn chwyldroi cynadleddau busnes yng Ngogledd Cymru – gyda chymorth y sgrin arian.

Gall cynrychiolwyr yn Sinema a Chanolfan Gelfyddydau’r Scala ym Mhrestatyn bellach ddefnyddio technoleg lloeren byw i gysylltu â chydweithwyr unrhyw le yn y byd.

Caiff y delweddau mawr eu rhoi ar y sgrîn trwy ddefnyddio yr un dechnoleg sy’n dod â chynyrchiadau opera a theatr o’r radd flaenaf i’r Scala.

Mae’r ganolfan hefyd yn ymfalchïo mewn ystafell gyfryngau sy;n cynnwys y cyfrifiaduron a’r meddalwedd diweddaraf tra bo cysylltiadau rhwydwaith digidol yn caniatáu ar gyfer cyflwyniadau deinamig rhyngweithiol ar y sgrîn fawr.

Yn ôl y Rheolwr Cyffredinol, Chris Bond, mae’r lleoliad ar arfordir Gogledd Cymru yn golygu bod yr adeilad yn lle perffaith i sefydliadau busnes, hyfforddiant, preifat, cyrff cyhoeddus ac elusennol i gynnal cynadleddau a chyfarfodydd o unrhyw faint.

Dywedodd: “Rydym yn darganfod bod busnesau a sefydliadau sy’n dod atom ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd yn dod yn ôl atom oherwydd y cyfleusterau gwych y gallwn eu cynnig.

“Rwyf am sicrhau bod fel cymaint o sefydliadau, busnesau, cyrff statudol ac asiantaethau â phosib yn ymwybodol o’r hyn sydd gennym i’w gynnig.

“Mae gan yr ystafell gyfryngau 16 gliniadur Apple Mac gyda’r meddalwedd ddiweddaraf.

“Mae gennym hefyd y camerâu diffiniad uchel diweddaraf sy’n golygu y gellir recordio a golygu ffilmiau a chyflwyniadau ar y safle a thaflunio’r cynnyrch gorffenedig ar y sgrîn fawr.”

Mae’r ymgyrch i hyrwyddo’r Scala fel lleoliad ar gyfer cynadleddau busnes wedi cael hwb gan brosiect £1,300,000 gyda’r bwriad o roi bywyd newydd i gymunedau ledled Ynys Môn a Sir Ddinbych.

Nod WINSENT (Rhwydwaith Cymru Iwerddon ar gyfer Entrepreneuriaeth Cymdeithasol) yw cefnogi mentrau cymdeithasol newydd a phresennol i dyfu, rhwydweithio â’i gilydd a dod yn gynaliadwy.

Mae mentrau cymdeithasol yn aml yn grwpiau sy’n cynnig gofal plant, ailgylchu, prosiectau celf a phrosiectau cymunedol allweddol fel agor siop neu dafarn sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned, pob un ohonynt er budd y bobl leol.

Caiff y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG 4A).

Mae WINSENT wedi helpu i sicrhau cyllid ar gyfer yr ystafell cyfryngau yn ogystal â hyfforddi staff yn y Scala.

Dywedodd Mr Bond: “Rydym wedi cael llawer iawn o gymorth gan WINSENT ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny. Mae’n wych gallu cael mynediad i gynllun a sefydlwyd yn benodol i helpu mentrau cymdeithasol Cymreig a Gwyddelig.

“Does dim amheuaeth y gallwn wneud llawer iawn i helpu busnesau bach a sefydliadau elusennol, trwy ein cyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae gennym bopeth ar y safle i drefnu popeth o gynhadledd fawr i gyfarfod bach.”

Datgelodd Mr Bond bod cyfleusterau rhyngweithiol wedi bod yn llwyddiant mawr gyda myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Meddai: “Yn ystod Gŵyl Ffilmiau Caerdydd yn ddiweddar, bu myfyrwyr Glyndŵr Wrecsam yn defnyddio ein cyfleusterau yma er mwyn sgwrsio mewn amser go iawn gyda myfyrwyr yn Aberystwyth a Chaerdydd trwy ein rhwydwaith digidol rhyngweithiol a deinamig.

“Rydym hefyd wedi cael llwyddiant mawr gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r actorion y Fonesig Judi Dench a Jude Law. Buont yn ateb cwestiynau gan ddilynwyr ffilmiau yma ac mewn sinemâu eraill ar draws y wlad.

“Y peth pwysig yw bod gennym y gallu a’r dechnoleg i ganiatáu i gynrychiolwyr cynhadledd neu fusnesau i sgwrsio gyda chydweithwyr ar draws y byd.”

A phan nad yw’n cael ei ddefnyddio fel cyfleuster cynhadledd mae sgrîn lloeren y Scala yn hynod boblogaidd iawn gyda mynychwyr y sinema.

“Mae perfformiadau lloeren yn arbennig o boblogaidd. Byddwn yn sgrinio perfformiad byw gan y Bale Bolshoi yn yr wythnosau nesaf tra bod cyngerdd y Royal Marines eisoes wedi gwerthu allan, “meddai Mr Bond.

Mae Sue Haygarth, o’r Consultancy Coop sydd wedi’i lleoli yng Nghymru, yn helpu Cyngor Sir Ddinbych i ddarparu WINSENT ar gyfer mentrau cymdeithasol yn y sir.

Dywedodd: “Mae’r Scala yn enghraifft berffaith o fentrau cymdeithasol cymunedol ar waith.

“Crefft y posibl yw mentrau cymdeithasol ac mae’r Scala yn gwneud popeth posib i wneud y gorau o’i botensial. Mae’n fusnes sydd ag ethos cymdeithasol.

“Rwyf am godi proffil mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaeth gymdeithasol fel y gallant fanteisio ar ein cefnogaeth a chymorth am ddim.
“Fe all menter gymdeithasol fod yn unrhyw un o nifer o bethau – gall fod yn berson sy’n edrych i drawsnewid adeilad adfeiliedig i fod yn ganolbwynt y gymuned, gall fod yn bobl sy’n chwilio am le i arddangos celf a chrefft, neu gall fod yn brosiectau ieuenctid neu gynllun gofal plant .
“Ein nod yw gwella ffabrig cymdeithasol cymunedau. Os ydych chi wedi colli’r ymdeimlad cymunedol, rydych wedi colli’r ardal.
“Yn aml iawn mae angen help gyda cheisiadau am gyllid a chynllunio neu marchnata a chyfathrebu busnes.
“Rwy’n gweithio ar y cyd gyda sefydliadau cymorth eraill i’w helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn dod o hyd i rywun sy’n gallu helpu.
“Yn y pen draw, rydym eisiau creu rhwydwaith o entrepreneuriaid cymdeithasol a mentrau ar y cyd gyda’n cydweithwyr yn Iwerddon.

Am fwy o wybodaeth am gyfarfodydd busnes a chynadleddau yn Sinema a Chanolfan Gelfyddydau’r Scala ffoniwch 01745 850 197 neu ewch i www.scalaprestatyn.co.uk ac fe all unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth am WINSENT gysylltu â Sue Haygarth drwy anfon e-bost at haygarthberry@hotmail.co.uk .

Back to top