DAL Y DÔN Ymwneud ag Entrepreneuriaeth Gymdeithasol
Dydd Mawrth, 17 Mai 2011, Stadiwm Tallaght
Cofrestru: 1.30pm Y gynhadledd yn dechrau am 2.30pm
Cynhelir y digwyddiad gan WINSENT –
Rhwydwaith Cymru ac Iwerddon dros Entrepreneuriaeth Gymdeithasol
Mae’r prosiect WINSENT yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy’r Rhaglen Cymru Iwerddon (INTERREG 4A)
DAL Y DÔN
Ymwneud ag Entrepreneuriaeth Gymdeithasol
Mae Entrepreneuriaeth Gymdeithasol yn ffenomenon sy’n ’sgubo trwy’r maes nid er elw. Mae pethau mawr yn digwydd o’i herwydd ac yn adfywio’r sector. Mae arwyr cymdeithasol newydd yn dod i’r fei o gyfeiriadau annisgwyl ac yn cyflwyno ffyrdd newydd a chreadigol o ymdrin â phroblemau cymdeithasol yn ein cymunedau.
Bydd y gynhadledd hon yn dod ag arbenigwyr ac ymarferwyr o’r Unol Daleithau, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon at ei gilydd er mwyn helpu ac annog y rhai sydd newydd gael eu cyflwyno i’r grym sy’n gynhenid wrth fabwysiadu’r egwyddorion newydd hyn.
Estynnir gwahoddiad i chi “Ddal y don” ac ymwneud ag entrepreneuriaeth gymdeithasol.
1.30pm Dechrau cofrestru / lluniaeth ysgafn
2.30pm Cyflwyniad i’r gynhadledd
Croeso a Sylwadau Agoriadol
Rheolwr Cyngor Sir De Dulyn – Maer Kildare – Prif Weithredwr Partas/WINSENT
Agoriad ffurfiol gan
Pat Rabbitte TD – Gweinidog dros Gyfathrebu, Ynni ac Adnoddau Naturiol
Entrepreneuriaeth Gymdeithasol – Y Persbectif Cymreig
San Leonard – Prif Weithredwr Social Firms Wales
Entrepreneuriaeth Gymdeithasol – Y Safbwynt Corfforaethol
Angela Smith, Pennaeth CSR, Cronfa Arthur Guinness / Diageo
Llais Entrepreneuriaid Cymdeithasol
Bernie Walsh – Sunflower Recycling / Tasglu Mentrau Cymdeithasol
Karen Leigh – Sensational Kids
Chris Gordon – 222 Ireland
PANED
PRIF SIARADWR – CYNNYDD MENTRAU CYMDEITHASOL YN FYD-EANG
JERR BOSCHEE – SEFYDLIAD ENTREPRENEURIAID CYMDEITHASOL
Fforwm agored i ddilyn
Cynhelir derbyniad lle gweinir bwyd a diod ar ôl y gynhadledd, am 6.00pm
ac rydyn ni’n estyn gwahoddiad i bawb rwydweithio a chymdeithasu mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol
PRIF SIARADWR
JERR BOSCHEE
Mae Jerr, 64, wedi bod yn cynghori entrepreneuriaid cymdeithasol yn yr Unol Daleithau a gwledydd eraill am dros 30 mlynedd. Hyd yma bu’n brif siaradwr neu’n arwain dosbarthiadau meistr mewn 42 o daleithau a 15 o wledydd, ac mae’n cael ei gydnabod fel un o sylfaenwyr y mudiad mentrau cymdeithasol trwy’r byd.
Bu’n uwch swyddog marchnata i gwmni Fortune 100 hefyd, yn rheolwr olygydd cadwyn o bapurau newydd rhanbarthol, gwirfoddolwr â’r Llu Heddwch yn India a darlithydd gwadd mewn nifer o sefydliadau academaidd, yn cynnwys Caergrawnt, Carnegie Mellon, Duke, Georgetown, Harvard, Northwestern, Rhydychen, Stanford ac eraill.
Mae Jerr yn gyn Lywydd a Phrif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol Entrepreneuriaid Cymdeithasol, yn un o chwe sylfaenydd y Gynghrair Mentrau Cymdeithasol a chafodd ei enwi gan The NonProfit Times yn y rhestr “Grym a Dylanwad – y 50 Uchaf” yn 2004, 2005 a 2006. Gwasanaethodd fel cynghorydd i Uned Mentrau Cymdeithasol yr Adran Diwydiant a Masnach ym Mhrydain rhwng 2001 a 2004 ac mae’n awdur pum llyfr, yn cynnwys Boschee on Marketing, The Social Enterprise Sourcebook a Migrating from Innovation to Entrepreneurship: How Nonprofits are Moving towards Sustainability and Self-Sufficiency, a enillodd wobrau iddo.
Ar hyn o bryd mae Jerr yn Gyfarwyddwr Gweithredol y Sefydliad Entrepreneuriaid Cymdeithasol (www.socialent.org) a sefydlodd yn 1999 ac mae’n Athro Gwadd mewn Arferion Mentrau Cymdeithasol yng Ngholeg H. John Heinz III, Adran Polisi a Rheolaeth Gyhoeddus, Prifysgol Carnegie Mellon. Ef hefyd oedd Cadeirydd cyntaf Peace Corps Encore! (sy’n cael ei adnabod fel Encore! Service Corps International yn awr), sefydliad nid er elw a lansiwyd yn 2003 i anfon cyn wirfoddolwyr â’r Llu Heddwch ac eraill yn ôl i wasanaethu ar aseiniadau tymor byr (rhwng un a chwe mis) sy’n cyfateb eu harbenigedd proffesiynol ag anghenion cymdeithasol penodol, a Chadeirydd Bwrdd SAGE (Students for the Advancement of Global Entrepreneurship) sy’n cefnogi entrepreneuriaid mewn ysgolion uwchradd mewn mwy nag ugain o wledydd. Ei gyfeiriad e-bost ydy jerr@orbis.net.
SIARADWYR Y GYNHADLEDD
San Leonard
Yn gweithio fel Prif Weithredwr Social Firms Wales ar hyn o bryd. Mae San yn ddynes fusnes ac entrepreneur proffesiynol iawn sy’n credu’n angerddol mewn gweithio wrth wraidd adfywio cymunedau er mwyn datblygu cyfleoedd sy’n creu newid cymdeithasol cynaliadwy.
Angela Smith – Pennaeth CSR, Cronfa Arthur Guinness / Diageo
Mae Angela’n aelod o dîm Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Diageo Iwerddon. Mae hi’n gyfrifol am reoli a gweinyddu rhaglen elusennol a buddsoddi cymunedol eang Diageo yn Iwerddon. Yn benodol mae hi’n cydlynu’r Gronfa Arthur Guinness gwerth €2.5 miliwn a sefydlwyd yn 2009 i gyd-fynd â dathlu 250 o flynyddoedd ers sefydlu Bragdy Giat Sant Iago gan Arthur Guinness ac mae’n rhan o’r gronfa Arthur Guinness fyd-eang sydd werth €7 miliwn.
Bernie Walsh
Mae Bernie wedi bod yn ymwneud â datblygu cymunedol am fwyafrif ei hoes. Roedd hi’n allweddol yn sefydlu Sunflower Recycling yn 1995 a hi ydy rheolwr y busnes economi gymdeithasol cyntaf hwn yn Iwerddon sy’n canolbwyntio ar ailgylchu cymunedol. Mae Sunflower Recycling a Busy Bees yn cyflogi 47 o bobl leol a fu’n ddiwaith am gyfnod tymor hir..
Karen Leigh
Ar ôl cael trafferth dod o hyd i wasanaethau therapi galwedigaethol fforddiadwy i’w phlentyn, penderfynodd Karen sefydlu canolfan therapi galwedigaethol i blant o bob lefel gallu. Yn dilyn dwy flynedd o godi arian agorodd Sensational Kids ddrysau ei ganolfan therapi yn Kildare yn 2009. Mae’r busnes wedi tyfu’n sylweddol ers hynny ac mae wedi rhoi gwasanaethau therapi am bris rhesymol i gannoedd o blant.
Chris Gordon
Mae Chris, entrepreneur cymdeithasol, siaradwr a sylfaenydd 222 Ireland, am weld newid yn y modd y darperir gwasanaethau yn Iwerddon. Gyda phrofiad yn y maes preifat ac elusennol a chefnogaeth gan dîm o arbenigwyr mae ganddo gynllun, ac mae’n gobeithio am ddyfodol gwell.
Ar ran holl bartneriaid Prosiect WINSENT (Rhwydwaith Cymru ac Iwerddon dros Entrepreneuriaeth Gymdeithasol) hoffwn eich croesawu i gymryd rhan mewn cynhadledd y gobeithiwn y bydd hi’n llawn ysbrydoliaeth ac yn torri tir newydd.
P’un ai ydych chi wedi teithio o Gymru neu siroedd Iwerddon neu ymhellach na hynny, mae croeso cynnes i chi ymuno â ni yn datgloi’r potensial y mae entrepreneuriaeth gymdeithasol yn meddu arno i gryfhau’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn ein cymunedau ni.
Croeso mawr i Jerr Boschee o’r Sefydliad Entrepreneuriaid Cymdeithasol a fydd yn ein hanerch ac yn rhoi diweddariad i ni ar entrepreneuriaeth gymdeithasol o bersbectif byd-eang.
Rydyn ni hefyd yn falch iawn o’r safbwyntiau eraill fydd yn cael eu rhannu; y persbectif corfforaethol; y persbectif polisi a’r persbectif ymarferol. Gobeithiwn y gwnewch chithau fanteisio ar y cyfle i rannu eich profiadau gyda ni wrth i ni eich gwahodd i rwydweithio a chymdeithasu â phawb fu’n bresennol yn y gynhadledd ar ddiwedd y diwrnod.
Mae diolchiadau’n ddyledus i gynifer o bobl: y rhai fu’n ymwneud â threfnu’r gynhadledd, y rhai a gytunodd i anerch a Llysgenhadaeth America (Dulyn) a noddodd Jerr Boschee i fod yma gyda ni am ddeudydd cyffrous iawn. Hefyd diolchwn i’n partneriaid WINSENT, ac yn enwedig Cyngor Sir De Dulyn am adael i ni ddefnyddio’r lleoliad cynadledda rhagorol yma. Ac wrth gwrs ni fyddai’r gynhadledd hon, na’r prosiect yn ei gyfanrwydd, wedi bod yn bosibl heb gymorth a chefnogaeth y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) trwy’r Rhaglen Cymru Iwerddon (INTERREG 4A).
Yn olaf, diolch yn fawr iawn i’n entrepreneuriaid cymdeithasol arbennig sydd eisoes wedi neidio ar y don ac sy’n hybu entrepreneuriaeth gymdeithasol ac yn gwahodd pob un ohonom ni i ymuno yn yr hwyl a’r cyffro.
Mwynhewch y gynhadledd.
John Kearns,
Cadeirydd, WINSENT
Cefnogir y gynhadledd gan:
‘n ddedwydd ‘n Grai Blwyddyn
‘n ddedwydd ‘n Grai Blwyddyn at pawb ‘n Gymdeithasol Entrepreneurs fel ‘ch pawb agor ‘ch newydd sbon ddyddiaduron achos 2011, blesio ddod i mewn ‘r 17th a 18th chan Mai at bod bannod chan ‘r odiaeth yn cyffroi canlyniad acha ‘r ‘n Gymdeithasol Entrepreneurship calendr. Jerr Boschee ewyllysia bod hosting a networking canlyniad acha ‘r 17th a athro ddosbartha i mewn ‘n Gymdeithasol Entrepreneurship ag 50 ‘N FFODUS ‘n Gymdeithasol Entrepreneurs acha ‘r 18th Hon canlyniad ewyllysia chymer chyflea i mewn ‘r Tallaght Stadium Chynhadledd Canola.
E-mail: eu at chofnoda.
Mae Jerr Boschee yn dod….
Dyddiadau ar gyfer eich Dyddiadur. Digwyddiad a gweithdai WINSENT ar Fai 17 ac 18, 2011 yng Nghanolfan Gynadledda Stadiwm Tallaght.
Mae Jerr Boschee wedi bod yn ymgynghorydd i entrepreneuriaid cymdeithasol yn yr Unol Daleithiau a lleoedd eraill am dros 30 o flynyddoedd ac mae wedi ei gydnabod ers amser maith yn un o sylfaenwyr y mudiad menter gymdeithasol dros y byd i gyd. Hyd yma mae wedi bod yn brif siaradwr neu wedi cynnal dosbarthiadau meistr mewn 42 o daleithiau a 15 o wledydd. Ar hyn o bryd mae Jerr yn gwasanaethu fel Llywydd dros dro amser llawn a Phrif Weithredwr Cynghrair Menter Gymdeithasol, y sefydliad sydd â’r aelodaeth fwyaf o entrepreneuriaid cymdeithasol yng Ngogledd America.
WINSENT Ariennir Dydd Iau Medi 23, 2010

Julie Harris
Fe ariennir digwyddiad gan WINSENT mae’r digwyddiad mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Network She a Busnesau ym mon ac mae’n digwydd yn ystod wythnos fusnes Cyngor Sir Ynys Mon
Photo Courtesy of Joe Quinney (c) 2010 www.qmpr.co.uk
BBC Wales Programme
Please see the link to a programme that appeared on BBC Wales about the current recession and how Ireland and Wales have similar problems and looking at how communities are going to cope.
http://www.s4c.co.uk?clic/c_level2.shtml?series_id=364886469














