Amdanom Ni

Caiff prosiect WINSENT ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG 4A). Bydd ariannu’n rhedeg o Fehefin 2009 i Fai 2012.

Mae gan WINSENT gymysgedd o sefydliadau partner, mentrau cymdeithasol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i gyd i:

  • Godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo diwylliant o entrepreneuriaeth gymdeithasol
  • Creu mentrau cymdeithasol newydd â dawn entrepreneuraiddr
  • Cefnogi mentrau cymdeithasol presennol a’r entrepreneuriaid cymdeithasol
  • Nodi cyfleoedd o fewn yr economi gymdeithasol
  • Cynorthwyo grwpiau cymunedol i gyflawni gwasanaethau allweddol yn lleol mewn ffordd entrepreneuraidd
  • Datblygu WISEA (Wales Ireland Network for Social Entrepreneurship Alliance) a fydd yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth ymysg entrepreneuriaid cymdeithasol a mentrau cymdeithasol. Gweler tudalen WISEA am ragor o wybodaeth.

Y partneriaid yw: Partas (partner arweiniol); Cyngor Swydd De Dulyn a Chyngor Swydd Fingal yn Iwerddon. Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ynys Môn yng Ngogledd Cymru.

Swyddogion Datblygu WINSENT yw Liane sydd wedi eu lleoli ar hyn o bryd yn Tallaght yn Iwerddon ac mae Vona wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru. Fe wnânt gyfarfod ag unrhyw unigolyn neu grŵp sydd â diddordeb mewn fforio menter gymdeithasol gyda syniad entrepreneuraidd a byddant yn cynnig cefnogaeth, mentora, cymorth gyda chynllunio busnes a gwybodaeth ar sut i gyrchu unrhyw lwybrau ariannu sydd ar gael.

Back to top